Mae Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd yn darparu clybiau ieuenctid ar gyfer unrhyw un sydd rhwng 10 a 25 oed ac sydd am gyfranogi. Lleolir y clybiau mewn gwahanol safleoedd ledled yr ardal leol ac maent yn cael eu rhedeg gan weithwyr ieuenctid cymwys sydd yn cynorthwyo pobl ifanc i benderfynu ar ba weithgareddau yr hoffent eu gwneud.
Er enghraifft, prosiectau celf, cerddoriaeth a drama; gweithgareddau chwaraeon ac yn yr awyr agored; Gwobrau Dug Caeredin a chynlluniau dyfarnu eraill; tripiau dydd a phrosiectau eraill y mae pobl ifanc am fod yn rhan ohonynt neu eu datblygu. Mae gweithwyr ieuenctid yno i siarad a gwrando a rhoi cymorth a chyngor os bydd angen.